Grŵp Trawsbleidiol Gorchwyl a Gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Blant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu (CAPI) – Cylch Gorchwyl (yn amodol ar gael ei fabwysiadu’n ffurfiol)
Gweledigaeth
Sefydlu polisi, deddfwriaeth a fframwaith ymarfer cenedlaethol i sicrhau bod pob plentyn sy’n profi’r caledi o fod â rhiant mewn carchar yn cael eu cydnabod, eu clywed, ac yn cael cyfle teg i sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau.
Cylch Gorchwyl
Disgwylir i aelodau’r grŵp gyfrannu at weithrediad y grŵp, pryd bynnag y bo hynny’n bosib, naill ai’n bersonol neu drwy anfon cynrychiolydd. Cymerir bod unrhyw gyfraniad a wneir gan gynrychiolydd yn adlewyrchu barn yr aelod gwreiddiol, heblaw y pennwyd fel arall.
Pryd bynnag y bo modd, disgwylir i aelodau’r grŵp neu eu cynrychiolwyr ymateb i wybodaeth a rennir a cheisiadau a wneir rhwng cyfarfodydd swyddogol.
Darganfod – casglu gwybodaeth, profiadau ac ymchwil
· Ystyried gwybodaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan deuluoedd sy’n dioddef gan fod aelod o’r teulu wedi’i garcharu.
· Ystyried gwybodaeth a gasglwyd gan ddarparwyr gwasanaeth arbenigol.
· Ystyried gwybodaeth a gasglwyd gan wasanaethau generig ar gyfer CAPI.
· Ystyried canfyddiadau ymchwil.
· Ystyried blaenoriaethau ymchwil newydd.
· Ymweld â gwasanaethau.
· Ymweliadau eraill e.e. Carchar y Parc.
Diffinio – disgrifio a thynnu sylw at y materion perthnasol
Dwyn ynghyd yr amrywiol faterion a wynebir gan deuluoedd â phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, gan ddarlunio cymhlethdod eu hanghenion a pha mor ddigonol yw ymatebion cyfredol
· Ystyried materion yng nghyswllt atodlen 7
o Ystyried argymhellion i Lywodraeth Cymru
§ Dros beth y gallai Llywodraeth Cymru eiriol?
§ Beth allai Llywodraeth Cymru ei gyflawni?
Dosbarthu
· Manteisio ar gyfleoedd ar gyfer cwestiynau ysgrifenedig a llafar mewn sesiynau llawn.
· Manteisio ar gyfleoedd ar gyfer dadleuon byr.
· Ystyried dylanwad cynlluniau gwaith ac ymholiadau Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol.
· Cynhyrchu adroddiad Grŵp Trawsbleidiol gan gynnwys diffinio’r mater a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.